SL(5)104 - Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

Cefndir a Phwrpas

Mae'r cod ymarfer hwn yn nodi sut y dylai'r darpariaethau ar gyfer cytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau a gynhwysir yn y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gael eu cymhwyso gan Weinidogion Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gweithdrefn

Dim, ond mae'n rhaid i'r cod gael ei osod gerbron y Cynulliad.

Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nid yw'r cod yn offeryn statudol felly nid yw'r Pwyllgor yn adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Mae'r Pwyllgor wedi ystyried ac adrodd ar y cod o dan:

-     Reol Sefydlog 21.7 (i): fel is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad;

-     Rheol Sefydlog 21.7(v): fel mater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy'n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru.

Pwyntiau adrodd

Mae pennawd y cod yn datgan (ychwanegwyd pwyslais): "Sut y Dylai Cytundebau Rheoli Rhywogaethau a Gorchmynion Rheoli Rhywogaethau gael eu cymhwyso yng Nghymru".

Mae'n ymddangos o'r teitl hwn bod y cod yn nodi sut y dylai cytundebau a gorchmynion o'r fath gael eu cymhwyso. Fodd bynnag, mae'r cod hefyd yn cynnwys nifer o bethau y mae'n rhaid eu gwneud.

Nid yw'r cod yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd o gwmpas ystyr "dylai" a "rhaid". Yn hyn o beth, mae'r Pwyllgor yn nodi'r dull defnyddiol a fabwysiadwyd yn y Cod Rheolaeth Ariannol CCAUC drafft (a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Mawrth 2017) a oedd yn egluro ystyr "rhaid" a "dylai" ac yn egluro canlyniadau methu â chydymffurfio â gofynion y cod:

 

4. Where HEFCW uses the term ‘must’, it means it is a specific legal requirement or requirement under this Code. Institutions must comply with these requirements.

 

5. HEFCW uses ‘should’ for items it regards as minimum good practice, but for which there is no specific legislation or for which HEFCW is not setting a requirement under this Code; however, governing bodies must take such guidance into account. HEFCW will consider the extent to which an institution has adopted the ‘should’ provisions (or alternative, equally robust arrangements) in the Institutional Risk Review - our annual assessment of risk.

 

6. A summary of ‘must’ and ‘should’ provisions is provided at Annex C.

 

7. Where an institution fails, or is likely to fail, to comply with a requirement imposed by this Code, HEFCW may instigate the processes within its Statement of Intervention.

 

 

Dywed y Pwyllgor y gallai'r cod gael ei ddrafftio mewn ffordd gliriach i helpu Gweinidogion Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ddeall beth mae "dylai" yn golygu a beth mae "rhaid" yn golygu, a chanlyniadau peidio â gwneud pethau y "dylai" gael eu gwneud neu y mae'n "rhaid" eu gwneud.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

16 Mai 2017